SL(5)117 - Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017
Cefndir a Phwrpas
Mae’r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008 (‘Rheoliadau 2008’) OS 2008/2141, yn sgîl newidiadau yn nghyfraith yr UE i ganiatáu parhad cynllun llaeth ysgol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru pan fydd cynllun llaeth ysgol newydd yr UE o dan Reoliad (UE) Rhif 1308/2013, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39 a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/40 yn dod i rym o 1 Awst 2017.
Yn benodol, bydd y Rheoliadau hyn yn caniatáu i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (ar ran Gweinidogion Cymru) barhau i weinyddu’r cynlluniau taliadau cymorth cenedlaethol yng Nghymru ac yn cael effaith gyfatebol â darpariaethau Rheoliadau 2008. Hefyd, byddant yn darparu pwerau mynediad ac arolygu penodol i Weinidogion Cymru (drwy Arolygiaeth Wledig Cymru) i hwyluso gorfodi’r cynllun llaeth ysgol, fel sy’n ofynnol gan rwymedigaethau’r UE.
Y weithdrefn
Negyddol
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r offeryn hwn yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio pwerau a roddwyd iddynt yn Neddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (‘Deddf 1972’) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â bwyd (gan gynnwys diod). Nid yw’n glir sut y bydd camau o dan bolisi o’r fath yn arferadwy pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, gallai methiant i gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r newidiadau ar unwaith i ddeddfwriaeth yr UE ac i hwyluso gorfodaeth y Cynllun Llaeth Ysgol arwain at achos am dorri cyfraith Ewropeaidd.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
10 Gorffennaf 2017